Llanberis Lake Railway

Cyfleoedd gwaith

Mae gennym swydd dymhorol am Cynorthwyydd Caffi

Rydym angen person brwdfrydig, dibynadwy a hyblyg i weithio yn ein caffi prysyr hyd at ddiwedd Tachwedd 2024, i weithio ar gyfartaledd o 24 i 30 awr yr wythnos, i gynnwys gwaith ar benwythnosau ac diwrnodau ychwanegol dros adegau prysur.

Bydd profiad o weithio mewn caffi yn fantais. Mae’r gwaith yn cynnwys paratoi bwyd, choginio, gweinyddu, glanhau i safon uchel.

Rhaid bod gyda phrofiad o ddelio efo arian yn gywir ac yn sydyn, a gyda phobl yn effeithiol a mewn hwyliau da.

Bydd Tystysgrif Hylendid Bwyd yn fanteisiol er y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi fel mae angen.

Cyflog yn dibynnu ar brofiad ond bydd yn cwrdd â'r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer oedran.

*Cychwyn ar unwaith

Anfonwch geisiadau, gan gynnwys CV, i sales@lake-railway.co.uk neu ffoniwch 01286 870549 i ofyn am fanylion pellach.

Hawlfraint © 2024 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd

Telerau ac Amodau Archebu / Prynu Tocynnau

Facebook TwitterInstagram