Gallwn gynnig gwerth gwych ar gyfer trefnwyr grwpiau a phrisiau gostyngol ar gyfer grwpiau o 15 o bobl neu fwy yma yn Rheilffordd Llyn Padarn ac, fel rhan o grŵp 'The Great Little Trains of Wales' sy'n darparu ffordd atgofus i fwynhau golygfeydd godidog Cymru, gyda phob rheilffordd â'i chymeriad a'i phersonoliaeth ei hun, yma yn Rheilffordd Llyn Padarn rydym yn cynnig taith 5 milltir o hyd sydd yn cymryd ychydig llai na 60 munud. Yn ystod y daith mae’r trên yn mynd heibio Castell Dolbadarn wedi ei adeiladu yn y 13eg ganrif, mae’n croesi Afon y Bala, o bosib afon fyraf Prydain ac yn teithio rhwng llynnoedd gefell Llanberis, Llyn Peris a Llyn Padarn, wrth i’r trên wneud ei daith i Bentref Llanberis. O'r pentref mae'r trên yn teithio drwy Barc Gwledig Padarn, gan ymuno a’r lein llechi gwreiddiol o 1845 sy’n rhedeg ar hyd glannau Llyn Padarn i Benllyn, gan roi golygfeydd godidog o dirwedd Eryri a'r Wyddfa, y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Ar y ffordd yn ol mae’r trên yn aros am gyfnod byr yng Nghei Llydan. Lle delfrydol am bicnic ger y Llyn. Dewisodd ‘CroesoCymru’ y fan hon fel un o ddeg lle gorau’r wlad ar gyfer picnic, gan gyfuno “hwyl picnic hen ffasiwn gyda’r rhamant taith ar drên treftadaeth”. Yma, gall eich teithwyr fwynhau'r golygfeydd neu edrych yn fwyl manwl ar yr injan.
Rydych yn sicr * o injan stêm gan mai ein polisi yw amserlennu un o'n trennau stêm treftadaeth ar bob siwrnai a hysbysebir. Cafodd ein trennau eu hachub o Chwareli Llechi Dinorwig gerllaw ac maent wedi cael eu hadfer gyda gofal gan ein staff. (* dim ond mewn argyfwng y defnyddir disel)
Rydym wedi ein lleoli ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis gyda lle parcio am ddim i nifer o goetsys, gyda thoiledau cyhoeddus ger llaw gan gynnwys mynediad i'r anabl. Mae hefyd yn gartref i Amgueddfa Llechi Genedlaethol Cymru, Ysbyty'r Chwarel a siopau crefftau, sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd. Mae modd hefyd i’ch teithwyr fwynhau ymweliad â'n siop a chaffi sy'n darparu byrbrydau a phrydau bwyd trwy gydol y dydd ac yn cynnig opsiwn byrbrydau ysgafn, sy’n ddelfrydol pan fydd amser yn brin.
Rydym 45 munud i ffwrdd o Llandudno (ar hyd yr A55) a 15 munud o Gaernarfon. Rydym hefyd 45 munud i ffwrdd o Betws y Coed, gan roi'r cyfle i gyrraedd Parc Gwledig Padarn dros ‘Pen y Pass’ ac i lawr i Llanberis wrth rhoi golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri.
Mae'r rheilffordd yn gweithredu teithiau arbennig yn ystod mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr i ddarparu ar gyfer marchnad ‘Twrci a Thinsel’. Mae'r rhain yn gweithredu ar ddydd Mawrth, ddydd Mercher a dydd Iau ac maent yn cynnwys mins pei a gwydriad o ddiod “tymhorol" ym mhris y tocyn.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu eich taith, cysylltwch gyda Tesni Jones ar 01286 870 549, neu e-bostiwch sales@lake-railway.co.uk Byddwn yn falch o gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau teithiol.
Gobeithiwn y gallwn groesawu'ch grwpiau i fwynhau tirwedd Eryri drostynt eu hunain wrth deithio ar ein trenau stêm treftadaeth.
Mae telerau arbennig gennym i bartîon ysgol a gall un athro neu athrawes deithio am ddim gyda pob wyth o blant, a gweddill yr athrawon am bris plentyn.
Mae trên stêm yn dal apêl arbennig i blant o bob oed, ac mae’r trenau stêm treftadaeth sydd yma ar Rheilffordd Llyn Padarn yn ffefrynau mawr, yn enwedig efo plant o oedran ysgolion cynradd. Mae siwrne ar Rheilffordd Llyn Padarn yn ffordd neilltuol i wobrwyo’r plant am eu gwaith caled drwy gydol y flwyddyn.
Os dymunir, mae'n hawdd cyfuno taith ar y trên efo ymweliad ag Amgueddfa Llechi Cymru tua 100 llath o'n gorsaf ar Barc Gwledig Padarn.
Gall y rheilffordd drefnu teithiau ar gyfer grwpiau ysgol o ganol mis Chwefror tan ddechrau mis Rhagfyr, a gellir cynnwys taith y rheilffordd mewn pynciau cwricwlwm, e.e, ein treftadaeth, hanes diwydiannol, y byd natur, daearyddiaeth a pheirianneg.
I archebu taith ar y trên neu am fanylion pellach rhowch alwad ffôn i Tesni Jones ar 01286 870549, neu gyrrwch e-bost i sales@lake-railway.co.uk. Byddwn yn hapus i roi cymorth i chi gael y gorau allan o’ch diwrnod yn Llanberis.
Gobeithiwn fod hyn o ddiddordeb ac edrychwn ymlaen I’ch gweld yma ar y rheilffordd
Hawlfraint © 2025 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd