Wedi eu lleoli yn ein prif orsaf yn ‘Gilfach Ddu’ ym Mharc Gwledig Padarn, mae ein caffi a siop ar agor bob dydd tra bod y trenau’n rhedeg, ond nid oes rhaid i chi fod yn teithio ar y trên i alw i mewn.
Rydyn ni’n gweini amrywiaeth o fyrbrydau poeth ac oer, brechdanau wedi’u paratoi’n ffres, pasteiod, diodydd poeth ac oer a dewis o gacennau sy’n berffaith ar gyfer trît prynhawn.
Gallwch hefyd fynd a bwyd o’r caffi efo chi i’w fwynhau ar y drên.
Yn ein siop anrhegion fe welwch ddewis helaeth o anrhegion at ddant pawb. Beth am fynd â chofrodd adref o’r dewis o anrhegion personol o’ch ymweliad â ni yma yn Rheilffordd Llyn Padarn.
Bwyd a Diod Cymreig gan gynnwys bocsys cyffug, bisgedi, siocledi, jin a gwirodydd o Aberfalls, Wisgi Distyllfa Penderyn, amrywiaeth o Gwrw ac anrhegion eraill.
Cardiau post, magnetau oergell, beiros, llyfrau nodiadau, pensiliau, matiau diod llechi a rhifau tai llechi, mygiau, llyfrau, gemau, llyfrau plant, trenau a setiau trenau, teganau meddal, posau i blant o bob oed a llawer mwy.
Sgôr Hylendid Bwyd o 5 eto eleni.
Hawlfraint © 2026 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd
![]()