Mae tocynnau a archebwyd ar lein neu a brynwyd yn yr orsaf ar gyfer un siwrnai llawn.
Maent yn ddilys ar yr amser a'r dyddiad teithio yn unig gydag amseroedd gadael wedi'u nodi ar yr archeb neu ar y tocyn a brynwyd.
Dim ond gyda archeb ymlaen llaw neu wrth brynu tocyn yn yr orsaf y sicrheir sedd i chi. Nodwch fod archebu tocyn yn cadw lle i chi ar y trên o'ch dewis ond nid sedd benodol. Os byddwch chi'n torri'ch taith, cewch ddychwelyd ar drên arall o'ch dewis, yn amodol ar argaeledd. Bydd angen i chi gyrraedd mewn digon o amser i eistedd eich grŵp gyda’u gilydd. Ar ôl archebu ticed arlein neu eu prynu ar y diwrnod, NID oes modd trosglwyddo tocynnau i amser arall ar ddiwrnod eich taith, na dyddiad arall ac NID ydynt yn AD-DALADWY.
Mae manylion Cerdyn Talu a roddir i'n darparwr talu trwy'r wefan, neu yn ein Swyddfa Archebu, neu derfynell cerdyn, yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel. Mae ein system basged siopa ar-lein yn defnyddio cysylltiad diogel i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel wrth ei drosglwyddo i'n darparwr talu.

Er y cymerir pob gofal i sicrhau bod ein trenau'n rhedeg fel yr hysbysebwyd, mae'r Cwmni'n cadw'r hawl i ddefnyddio locomotifau disel os oes angen, ac i amrywio'r amserlen a'r strwythrau prisiau cyhoeddedig heb rybudd.
Oni bai eich bod wedi archebu ymlaen llaw, dim ond ar yr amod bod o leiaf 12 ticed yn cael eu gwerthu y bydd y daith 4yh yn rhedeg. Bydd y penderfyniad i ganslo’r ymadawiad am 4yh yn cael ei wneud am 3.45yh.
Hawlfraint © 2023 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd