Mae Rheilffordd Llyn Padarn gyda’i hanes dwfn yn yr ardal yn un o nifer o atyniadau mawr yn Llanberis, y pentref ar lan y llyn wrth droed Yr Wyddfa. Mae cymaint i’w weld a’i wneud, ac mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn rhan o rwydwaith unigryw a gydnabyddir gan UNESCO fel y gorau ar y ddaear. Maen nhw’n dangos eiliadau hollbwysig mewn ymdrech ddynol a newidiodd y byd am byth, felly beth am wneud diwrnod ohono ac ymweld â’r Amgueddfa Lechi Cymru ac Ysbyty’r Hen Chwarel sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru,, sy’n arddangos hanes y diwydiant llechi a fu unwaith yn ffynnu yn yr ardal hon. Mae stori llechi yn un barhaus sydd wedi gadael ei hôl ar y dirwedd, trefi, pentrefi a’r byd. Mae'r lle arbennig hwn yn dal i ddwyn marciau'r diwydiant a roddodd do i'r byd. Roedd yr arloesedd a’r dechnoleg yn ei wneud yn ddiwydiant o’r radd flaenaf ac wedi sicrhau ei le yn hanes y byd.
Rhan arall o dirwedd Eryri i’w ymweld a, fyddai Yr Wyddfa, gyda 1085 metr neu 3560 troedfedd, sy'n golygu mai dyma'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi'n dda os ydych chi'n ystyried profi’r tirnod godidog hwn trwy ymweld â gwefan Ymweld ag Eryri gyda digon o arweiniad ar fynd ar y mynydd a llawer mwy o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i fyny, amodau tywydd ac yn y blaen. Mae yna hefyd Rheilffordd yr Wyddfa a fyddai'n mynd â chi i fyny'r Wyddfa gyda golygfeydd syfrdanol.Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.
Os ydych yn un am antur, ond ddim cweit yn barod am Gopa Uchaf Yr Wyddfa, beth am ymweld â Boulder Adventures neu Ropeworks Active neu hyd yn oed y ganolfan deifio Vivian, a leolir o amgylch Parc Gwledig Padarn a Llyn Padarn ar gyfer Caiacio, Canŵio, Dringo creigiau ac Abseilio, cyrsiau rhaffau neu anturiaethau tanddaearol, arfordira, deifio a llawer mwy.
Peidiwch ag anghofio ymweld â Chastell Dolbadarn o’r 13eg Ganrif. ‘Castell Cymreig ac unig warcheidwad Bwlch Llanberis yn Eryri’ fel y disgrifir gan ‘Cadw’, sefydliad sy’n gweithio i warchod adeiladau a strwythurau hanesyddol, tirweddau a safleoedd treftadaeth Cymru.
Mae yna nifer o lwybrau cerdded gyda arwyddbwyntiau i’w harchwilio o amgylch Parc Gwledig Padarn. Pob un gyda graddau amrywiol o rwyddineb. Ceir rhagor o wybodaeth am y teithiau a’r llwybrau hyn ar www.gwynedd.llyw.cymru
Yn wir, mae cymaint i’w wneud yn Llanberis, beth bynnag fo’r tywydd, efallai na fydd dim ond un diwrnod yn ddigon…
Beth am edrych ar y dolenni hyn hefyd i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad ag Eryri….
Hawlfraint © 2023 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd