Archebwch eich tocynnau ar-lein ar gyfer y trên o'ch dewis hyd at hanner nos y diwrnod cyn teithio. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod gennych sedd wedi'i chadw ar gyfer eich amser trên dymunol.ARCHEBU |
Oherwydd prosiect ailosod ceblau trydan hanfodol Grid Cenedlaethol, mae Rheilffordd Llyn Padarn wedi trosglwyddo darn sylweddol o'r rheilffordd i Grid Cenedlaethol er mwyn iddynt allu disodli'r ceblau hynny sy'n rhedeg o dan dir y rheilffordd. Mae hyn yn golygu, o’r 15fed Chwefror drwy gydol 2026, y bydd y rheilffordd yn gweithredu gwasanaeth trên teithwyr byrrach o'r brif orsaf ar Barc Gwledig Padarn i'n gorsaf yn Llanberis ac i'r gwrthwyneb, taith o oddeutu ½ milltir, 15 munud i gyd. Bydd y Caffi yn ein prif orsaf ym Mharc Gwledig Padarn yn parhau i fod ar agor yn llawn yn unol â'r amserlen a gyhoeddwyd, yn ogystal â'n dwy siop fanwerthu.
Pris y tocyn yw Oedolion - £2.00, Plant - £1.00 Cŵn - 50c a bydd yn caniatáu i deithwyr deithio yn ddiderfyn ar y diwrnod a ddewiswyd i deithio yn unig.
Archebwch eich tocynnau ar-lein ar gyfer y trên o'ch dewis hyd at hanner nos y diwrnod cyn teithio. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod gennych sedd wedi'i chadw ar gyfer eich amser trên dymunol.ARCHEBU |
Hawlfraint © 2026 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd
![]()