Oherwydd cyfyngiadau o ran lle ym Mhenllyn, ynghyd â’r peryglon sy’n codi o dagfeydd yn y ffyrdd cul iawn, mae’n anodd i ymwelwyr ymuno â’r trenau ar y pwynt hwn. Byddwn felly yn dechrau ein taith yng Ngorsaf Parc Padarn – a elwir yn lleol yn Gilfach Ddu – er ei fod wrth gwrs bellach yn bosibl dechrau o Orsaf Llanberis.
Gwerthir tocynnau ar gyfer y daith ar y trên yn Adeilad yr Orsaf, ac felly hefyd ystod o anrhegion, llyfrau, cofroddion a lluniaeth.
Wrth fynd ar y trên, sylwir bod gan y coetsis ddrysau ar un ochr yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr holl orsafoedd ar un ochr yn unig, ac mae’n rhagofal diogelwch ychwanegol er mwyn atal unrhyw un rhag syrthio i mewn i’r llyn ar yr ochr arall!
Mae’r brif fynedfa i’r Amgueddfa i’w gweld yn glir o’r trên, a gellir gweld cloc mawr uwchben y porth. Mae dau ddyn yn treulio deng munud unwaith yr wythnos yn weindio’r eitem hanesyddol hwn - yn gyffredinol mae’n cadw’r amser yn dda ac anfonir y trenau yn ôl yr amser ar y cloc. Mae deial y cloc yn slab anferth o lechen ysgythredig.
Pan fydd yr amser yn dod, mae’r trên yn ymadael o’r platfform ac, ar ôl croesi’r ffordd mynediad i’r orsaf, mae’n cychwyn ar y daith ar hyd yr Amgueddfa Llechi. Ar un adeg, prif weithdai oedd yr adeilad hwn ar gyfer y chwarel gyfan ac roedd yn hollol hunangynhaliol. Os ydych yn lwcus mae’n bosibl y byddwch yn cael cipolwg ar un o’n hinjans stêm eraill y tu allan i’r adeilad, oherwydd y defnyddir rhan ohono hefyd fel sied injans a gweithdy ar gyfer y rheilffordd. Mae’r injan yn gweithio’n eithaf caled wrth iddi ddringo’r graddiant ac, wrth ganu’r chwiban, mae’n dechrau symud ar draws y brif ffordd mynediad i Badarn. Ar eich ochr dde, yn iard yr Amgueddfa, cafodd teras o dai chwarelwyr eu hailadeiladu a bellach mae’n dangos sut yr oedd eu teuluoedd yn byw ar hyd y degawdau. Daeth y tai a oedd ar un adeg yn adfeiliedig, o Flaenau Ffestiniog a chafodd pob carreg ei marcio’n ofalus a symudwyd y ‘jig-so’ o’r fan honno i Badarn. Mae gan y bont dros yr afon rydych chi nawr yn ei chroesi rychwant o 33 o fetrau. Daeth mewn tri phrif ddarn, ac ar ôl iddynt gael eu ffitio at ei gilydd, cafodd ei winsio i’w lle gan graen 600 tunnell anferth.
Wrth i’r trên groesi’r caeau ar raddiant sy’n disgyn yn raddol, gellir gweld Llyn Peris a Bwlch Llanberis ar yr ochr chwith. Mae lefel y dŵr yn y llyn hwn yn codi ac yn disgyn yn sylweddol oherwydd fe’i defnyddir i gynhyrchu pŵer gan Bwerdy Trydan Dinorwig a leolir yn ddwfn y tu mewn i fynydd Elidir, o dan waith hen Chwarel Dinorwig. Hefyd ar y chwith, yn dominyddu’r cefn gwlad o’i amgylch, mae Castell Dolbadarn, a adeiladwyd yn gynnar yn y 13eg ganrif gan Llywelyn Fawr. Ar ôl dringo ychydig, mae’r trên yn cyrraedd terfynfa Llanberis ac mae’r injan yn ‘rhedeg o gwmpas’ y trên. Os dymunwch, gallwch dorri eich taith yma er mwyn gweld Heol Fawr Llanberis, gyda’i siopau, tafarndai a chaffis.
Yn fuan dyma ni’n symud i ffwrdd eto yn y cyfeiriad arall, ond, yn gyntaf, os ydych yn lwcus, mae’n bosib y gwelwch chi un o’n trenau eraill yn teithio ar draws ochr arall y llyn. Nawr mae’r trên yn olrhain ei lwybr yn ôl i Barc Padarn, ond y tro hwn mae’n mynd heb stopio drwy’r orsaf. Ar ddiwrnodau prysur yn ystod misoedd yr haf, ewch chi heibio trên arall yn aros yn yr orsaf - gwyliwch am yr arwyddwyr yn cyfnewid ffyn. Mae angen ffon neu docyn gwahanol ar gyfer pob rhan o’r rheilffordd er mwyn rhwystro dau drên rhag bod yn yr un rhan ar yr un pryd. Nawr mae’r tomennydd gwastraff yn cau i mewn ar y lein nes eu bod yn rhedeg mewn trychfa ddofn, gyda mynedfa fwaog uchel iawn yn ei dominyddu - Bwa Vivian - a adeiladwyd yn 1900 i ganiatáu i wastraff llechi gael ei ollwng ar ochr y llyn. Gwnaed cyfuchlinau cras y tomennydd yn llai diolwg trwy symud ychydig o gerrig a phlannu llawer o laswellt, er mwyn darparu pwyntiau mantais ardderchog i edrych ar y golygfeydd oddi wrthynt. Yn syth ar ôl mynd heibio i’r bwa, fodd bynnag, daw’r tomennydd i ben a datgelir golygfa odidog ar draws Llyn Padarn. O’r fan hyn i Ben Llŷn bydd y trên yn dilyn glan y llyn, ac nid yw byth yn fwy nag ychydig o droedfeddi o ymyl y dŵr.
Gellir gweld pentref Llanberis ar y lan gyferbyn, ac mae gwychder llawn cadwyn mynyddoedd Eryri yn cael ei ddatgelu’n araf. Mae rhan hon y lein yn rhedeg ar silff a adeiladwyd yn union ar lan y llyn.
Ar ochr arall y rheilffordd gellir gweld y goedwig Allt Wen drawiadol – enghraifft ardderchog o’r coetiroedd collddail naturiol sy’n mynd yn fwyfwy prin a oedd ar un adeg yn gorchuddio rhan fwyaf llethrau isaf mynyddoedd Cymru.
Mae’r goedwig yn gartref i ystod ddiddorol o fywyd gwyllt, gellir gweld gwiwerod yn aml yn rhedeg wrth ochr y trenau a gellir clywed rhuglo cnocell y coed drwy gydol yr haf. Hefyd mae rhywfaint o nadredd yn yr isdyfiant mwy trwchus i ffwrdd o’r rheilffordd a chynghorir i ymwelwyr beidio â chamu i ffwrdd o lwybrau cydnabyddedig. Yn y gwanwyn a’r hydref, efallai byddwch yn lwcus i weld praidd o eifr gwyllt, sy’n cael eu gyrru oddi ar y llethrau uwch gan y tywydd gwael.
Mae’r llyn, hefyd, yn cynnal ystod eang o fywyd. Digonedd o bysgod wrth gwrs - eog gwych a Thorgoch o’r Arctig, yn ogystal â physgod bras. Mae digonedd o adar, o’r gwylanod, elyrch a hwyaid anochel, i’r crëyr mwy prin y gellir ei weld yn sefyll ar un goes, heb symud, am oriau.
Wrth i’r daith fynd yn ei blaen, mae’r trên yn cyrraedd pen Allt Wen, ac, wrth ganu’r chwiban, mae’n mynd o gwmpas tro cul 'Ladas'. Mae Nant Wen yn agor i fyny ar y dde; mae pentref Dinorwig yn weladwy uwchben y lein wrth i’r trên glecian dros Bont Afon Wen. Mae glan y llyn yn fwy ar osgo yma, oherwydd gwastraff llechi yn cael ei ollwng yn y gorffennol o chwareli’r Faenol a gaeodd ers tro byd, sydd erbyn hyn bron yn anweladwy yn y coedwigoedd sy’n cau i mewn eto ar y dde.
Awn heibio Gei Llydan nawr, lle mae safle picnic da wrth ochr y llyn – bydd y trên yn stopio yma ar y ffordd adref. Mae rhan nesaf y lein drwy drychfa fer, sy’n achosi llawer o ddiddordeb ymhlith daearegwyr, oherwydd mai lafa solet yw’r cerrig o losgfynydd sy’n farw ers tro byd! Mae’r garreg ei hun yn edrych fel sbwng llwyd mân iawn, gyda miliynau o gerrig bach wedi’u mewnosod ynddi. Cafodd arwyneb y garreg ei hollti a’i gracellu oherwydd crebachu wrth iddi hi oeri.
Ar ôl Trychfa’r Llosgfynydd, mae’r ffordd yn agor allan ar silff lydan iawn, a oedd yn arfer bod yn lle glanio ar gyfer cychod yn cludo cerrig ar draws y llyn; mae pobl leol yn gwybod ble i ddod o hyd i hen gylchoedd angori yn yr ardal.
Pan gafodd y pwerdy trydan dŵr ei adeiladu yn Ninorwig, penderfynwyd rhoi’r ceblau sy’n cludo’r trydan o dan y ddaear er mwyn osgoi effaith ar olygfeydd mewn ardal o harddwch eithriadol, ac mae’r ceblau hyn wedi’u claddu wrth ochr y rheilffordd. Mae’r adeilad llechi, y gallwch chi ei weld nawr ar ochr dde’r trên, yn orsaf pwmpio dŵr. Tynnir dŵr oer o’r llyn, er mwyn oeri’r ceblau pŵer yn y ddaear.
Mae seidin cangen yn rhedeg i mewn i’r adeilad o’r rheilffordd, er mwyn i’r pympiau dŵr a chyfarpar arall gael ei gludo ar y trenau pan fydd angen atgyweirio.
Mae’r lein yn parhau trwy drychfa hir grom, sy’n fas iawn, ond sydd hefyd yn dueddol o fod yn wlyb. Os bydd wedi bwrw glaw yn ddiweddar, gellir gweld rhaeadr fach ond trawiadol yn syrthio wrth ochr y trên.
Ailadroddir patrwm y llwybr – trychfa fas yn gyntaf, wedyn arglawdd ehangach – ar hyd gweddill y daith i Ben Llŷn, sy’n rhoi darlun clir o’r anawsterau mae’n rhaid bod y dynion wedi’u profi wrth iddynt adeiladu’r lein yn ôl yn y 1840au. Cofiwch nad oedd ganddynt unrhyw beiriannau – dim ond offer crai ac ychydig o bowdwr gwn.
Wrth ddod yn nes at Ben Llŷn mae’r golygfeydd erbyn hyn yn amlwg yn fwy esmwyth, mae’r bryniau serth wedi cilio i’r pellter, ac mae llethrau llyfnach yn cymryd eu lle. Mae copa’r Wyddfa yn edrych yn eithaf anghysbell nawr, ac mae’n werth ei gwylio ar y daith adref - gan gymryd na fydd hi wedi’i gorchuddio gan gymylau - oherwydd bod y twf o ran maint ac uchder sy’n ymddangos yn drawiadol.
Ym Mhen Llŷn, fel y soniwyd o’r blaen, nid yw'n ddoeth gadael neu ymuno â’r trên - fodd bynnag, does dim diben gwneud hynny, oherwydd bod y golygfeydd gorau oll yma yn weladwy’n glir o gerbydau’r rheilffordd. Mae’n rhaid i’r injan ‘redeg o gwmpas’ i ben arall y trên, ac fel arfer bydd y giard yn achub ar y cyfle i wirio tocynnau’r teithwyr.
Pan fydd y tasgau hyn wedi’u cwblhau, bydd y daith dychwelyd yn cychwyn - ac er y byddwch yn teithio yn ôl yr un ffordd, mae’n sicr y byddwch yn sylwi ar lawer iawn y gwnaethoch fethu ar y ffordd i lawr. Yn wir, mae’r olygfa, y gellir ei gweld o’r trên, mor eang, mae criwiau’r trenau, sy’n gwneud y daith gannoedd o weithiau bob blwyddyn, yn sylwi ar rywbeth newydd trwy’r amser.
Ar y daith yn ôl bydd y trên yn stopio yng Nghei Llydan am ychydig o funudau. Os bydd y tywydd yn braf, mae’n drueni peidio â gadael y trên yma a gadael iddo ddychwelyd i Lanberis hebddoch chi. Gallwch ddal y trên nesaf sy’n galw yma, ac yn y cyfamser mae cymaint i’w weld. Mae pentir bach yn ymwthio allan i’r llyn, gan ffurfio man ardderchog i weld y mynyddoedd ohono, a bydd bwrdd lluniau yma yn eich helpu i adnabod pob copa; trwy’r amser ceir mannau dymunol ar gyfer picnic, gyda byrddau a meinciau wedi’u darparu ar eich cyfer ar y pentir ac yn y cysgod ar y platfform. Pe bai cawod annisgwyl yn eich synnu, mae cwt carreg cyfleus i gysgodi ynddo.
Ar ôl mwynhau heddwch a harddwch y Cei, bydd y daith yn ôl i Gilfach Ddu yn rhoi diweddglo gwych i’ch ymweliad. Yn gyson mae’r golygfeydd yn mynd yn fwy mawreddog, wedyn gellir gweld y pentref ar draws y llyn. Yn sydyn bydd y tomennydd a’r Bwa yn cuddio’r olygfa, ac unwaith eto rydych yn ôl ym myd pob dydd ceir a thagfeydd traffig. Mae’r trên yn aros am gyfnod yma, gan roi amser i’r gyrrwr roi glo a dŵr yn ei injan, rhoi olew yma ac acw ac wedyn, o bosibl, gael cwpanaid o de i’w hun. Amser i chi dynnu ychydig o ffotograffau ac wedyn beth am archwilio rhai o atyniadau eraill Padarn! Os dechreuoch eich taith yng ngorsaf Llanberis gallwch ddychwelyd yno ar unrhyw drên hwyrach.
Cliciwch yma i gael fersiwn PDF
Hawlfraint © 2024 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd