Llanberis Lake Railway

Croeso i Reilffordd Llyn Padarn

Ailagor 15fed Chwefror 2026

Taith fyrrach dros dro i deithwyr ar gyfer 2026

Oherwydd prosiect ailosod ceblau trydan hanfodol Grid Cenedlaethol, mae Rheilffordd Llyn Padarn wedi trosglwyddo darn sylweddol o'r rheilffordd i Grid Cenedlaethol er mwyn iddynt allu disodli'r ceblau hynny sy'n rhedeg o dan dir y rheilffordd. Mae hyn yn golygu, o’r 15fed Chwefror drwy gydol 2026, y bydd y rheilffordd yn gweithredu gwasanaeth trên teithwyr byrrach o'r brif orsaf ar Barc Gwledig Padarn i'n gorsaf yn Llanberis ac i'r gwrthwyneb, taith o oddeutu ½ milltir,15 munud i gyd. Bydd y Caffi yn ein prif orsaf ym Mharc Gwledig Padarn yn parhau i fod ar agor yn llawn yn unol â'r amserlen a gyhoeddwyd, yn ogystal â'n dwy siop fanwerthu.

Pris y tocyn yw Oedolion - £2.00, Plant - £1.00 Cŵn - 50c a bydd yn caniatáu i deithwyr deithio yn ddiderfyn ar y diwrnod a ddewiswyd i deithio yn unig.


Croeso i Reilffordd Llyn Padarn

Taith fyrrach dros dro i deithwyr ar gyfer 2026

Oherwydd prosiect ailosod ceblau trydan hanfodol Grid Cenedlaethol, mae Rheilffordd Llyn Padarn wedi trosglwyddo darn sylweddol o'r rheilffordd i Grid Cenedlaethol er mwyn iddynt allu disodli'r ceblau hynny sy'n rhedeg o dan dir y rheilffordd. Mae hyn yn golygu, o’r 15fed Chwefror drwy gydol 2026, y bydd y rheilffordd yn gweithredu gwasanaeth trên teithwyr byrrach o'r brif orsaf ar Barc Gwledig Padarn i'n gorsaf yn Llanberis ac i'r gwrthwyneb, taith o oddeutu ½ milltir,15 munud i gyd. Bydd y Caffi yn ein prif orsaf ym Mharc Gwledig Padarn yn parhau i fod ar agor yn llawn yn unol â'r amserlen a gyhoeddwyd, yn ogystal â'n dwy siop fanwerthu. Pris y tocyn yw Oedolion - £2.00, Plant - £1.00 Cŵn - 50c a bydd yn caniatáu i deithwyr deithio yn ddiderfyn ar y diwrnod a ddewiswyd i deithio yn unig.

Y Shwrna Tren

Oherwydd cyfyngiadau o ran lle ym Mhenllyn, ynghyd â’r peryglon sy’n codi o dagfeydd yn y ffyrdd cul iawn, mae’n anodd i ymwelwyr ymuno â’r trenau ar y pwynt hwn. Byddwn felly yn dechrau ein taith yng Ngorsaf Parc Padarn – a elwir yn lleol yn Gilfach Ddu – er ei fod wrth gwrs bellach yn bosibl dechrau o Orsaf Llanberis.

Gwerthir tocynnau ar gyfer y daith ar y trên yn Adeilad yr Orsaf, ac felly hefyd ystod o anrhegion, llyfrau, cofroddion a lluniaeth.

Wrth fynd ar y trên, sylwir bod gan y coetsis ddrysau ar un ochr yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr holl orsafoedd ar un ochr yn unig, ac mae’n rhagofal diogelwch ychwanegol er mwyn atal unrhyw un rhag syrthio i mewn i’r llyn ar yr ochr arall!

darllen mwy

Dathlu 50 mlynedd 2022

 

Tocynnau

Ar gyfer pob archeb tocyn ar-lein casglwch eich tocyn o'n prif orsaf yn:
Gilfach Ddu,
Parc Gwledig Padarn,
Llanberis
LL55 4TY

Rhaid cyrraedd yr orsaf 30 munud o flaen yr amser trên archebwyd

Rydym yn croesawu Cŵn ar ein trenau

map

Hawlfraint © 2026 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd

Telerau ac Amodau Archebu / Prynu Tocynnau

Facebook TwitterInstagram