Rydym yn awyddus i dderbyn sylwadau ymwelwyr i'r Rheilffordd drwy arolwg ar-lein a byddem wir yn ei werthfawrogi pe gallech dreulio ychydig funudau yn ateb nifer byr o gwestiynau ar-lein. Gellir cael mynediad i’r arolwg drwy’r ddolen neu'r Cod QR isod.
Hoffem wybod mwy am eich profiadau, a'ch barn ar sut y gallwn wella cyfleusterau, a gwneud ymweliadau yn y dyfodol hyd yn oed yn fwy pleserus.
Mae'r arolwg yn rhedeg rhwng Awst a Hydref 2023, a bydd raffl fisol i'r rhai sy'n cymryd rhan, gydag un ymgeisydd lwcus bob mis yn ennill tocyn teulu i'w ddefnyddio unrhyw bryd yn ystod y 12 mis nesaf.
Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 10 munud, a bydd yr atebion a ddarperir yn ein helpu i ddatblygu'r rheilffordd yn y dyfodol.
Hawlfraint © 2023 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd