Llanberis Lake Railway

Croeso i Rheilffordd Llyn Padarn

Byddwn yn ail-agor ein drysau ar gyfer ein gwasanaethau trên stem i deithwyr ar hyd glannau prydferth Llyn Padarn Dydd Sul 11eg o Chwefror 2024. Mae archebu ar-lein nawr ar gael ar gyfer holl ddyddiadau 2024.

 


Osgwelwch yn dda, caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith er mwyn cyrraedd yr orsaf 20 munud cyn yr amser ymadael a archebwyd.

Os gwelwch yn dda caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith er mwyn cyrraedd yr orsaf 20 munud cyn amser ymadael a archebwyd oherwydd gwaith ffordd parhaus ar yr A4086 i Llanberis, gyda gwaith ffordd tebyg rhwng yr A4244 a’r B4547 Brynrefail i Bentir. Mae hyn oherwydd prosiect y National Grid i newid y ceblau tanddaearol presennol rhwng gorsaf bŵer Dinorwig a'r is-orsaf ym Mhentir.
Mae gwybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan y National Grid

Helfa Wyau Pasg 30 Mawrth – 1 Ebrill 2024
Helfa Wyau Pasg 30 Mawrth – 1 Ebrill 2024
Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein Helfa Wyau Pasg flynyddol. Unwaith eto, mae ein Cwningen Wen breswyl wedi cuddio ei holl wyau o amgylch y rheilffordd gan feddwl na fydd unrhyw un arall yn dod o hyd iddyn nhw! Allwch chi helpu? Bydd pawb yn derbyn gwobr am hela!
  • Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein Helfa Wyau Pasg flynyddol. Unwaith eto, mae ein Cwningen Wen breswyl wedi cuddio ei holl wyau o amgylch y rheilffordd gan feddwl na fydd unrhyw un arall yn dod o hyd iddyn nhw! Allwch chi helpu? Bydd pawb yn derbyn gwobr am hela!
  • Hwyl gwyliau'r hâf i’r teulu ar Rheilffordd Llyn Padarn! Beth am ddod i’n helpu ni i ddathlu ein wythnos ‘Archarwyr y Byd’ blynyddol rhwng 5ed a 9fed o Awst ar y rheilffordd? Gwisgwch i fyny fel eich hoff archarwr i gael y cyfle i ennill tocynnau teulu i un o dri parc thema yn ogystal â gwobrau dyddiol eraill!
  • Rydym wedi clywed fod yr ysbrydion direidus yn gwneud eu ffordd yn ôl i ‘Goedwig y Gwrachod’ eto eleni ar ôl cael eu hel i ffwrdd flwyddyn diwethaf.
    A wnewch chi ddod ar ein Trên Ysbrydion Llyn Padarn drwy Goedwig y Gwrachod i helpu i hela am yr ysbrydion direidus sy’n cuddio ar hyd y rheilffordd?! Bydd pob heliwr ysbryd yn derbyn gwobr am ein helpu.
  • Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth, dydd Mercher, neu ddydd Iau o’r 12fed o Dachwedd ar daith olygfaol hydrefol ar hyd glannau Llyn Padarn lle gallwch fwynhau ysblander mynyddoedd Eryri wrth drafeilio ar un o’n trênau stêm treftadaeth.

Digwyddiadau i Ddod

Helfa Wyau Pasg 30 Mawrth – 1 Ebrill 2024
Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein Helfa Wyau Pasg flynyddol. Unwaith eto, mae ein Cwningen Wen breswyl wedi cuddio ei holl wyau o amgylch y rheilffordd gan feddwl na fydd unrhyw un arall yn dod o hyd iddyn nhw!

Wythnos Archarwyr 5 – 9 Awst 2024
Hwyl gwyliau'r hâf i’r teulu ar Rheilffordd Llyn Padarn! Beth am ddod i’n helpu ni i ddathlu ein wythnos ‘Archarwyr y Byd’ blynyddol rhwng 5ed a 9fed o Awst ar y rheilffordd? Gwisgwch i fyny fel eich hoff archarwr i gael y cyfle i ennill tocynnau teulu i un o dri parc thema yn ogystal â gwobrau dyddiol eraill!

Helfa Calan Gaeaf 28 Hydref - 2 Tachwedd 2024
Rydym wedi clywed fod yr ysbrydion direidus yn gwneud eu ffordd yn ôl i ‘Goedwig y Gwrachod’ eto eleni ar ôl cael eu hel i ffwrdd flwyddyn diwethaf. A wnewch chi ddod ar ein Trên Ysbrydion Llyn Padarn drwy Goedwig y Gwrachod i helpu i hela am yr ysbrydion direidus sy’n cuddio ar hyd y rheilffordd?!

Lakeside Winter Wonder’ 12 Tachwedd – 19 Rhagfyr
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth, dydd Mercher, neu ddydd Iau o’r 12fed o Dachwedd ar daith olygfaol hydrefol ar hyd glannau Llyn Padarn lle gallwch fwynhau ysblander mynyddoedd Eryri wrth drafeilio ar un o’n trênau stêm treftadaeth. Mwy o Wybodaeth Am Y Digwyddiadau

Croeso i Reilffordd Llyn Padarn

Mae'r daith yn cychwyn o orsaf Gilfach Ddu ym Mharc Gwledig Padarn, ar hyd yr estyniad newydd i bentref Llanberis , heibio i Amgueddfa Lechi Cymru a Chastell hanesyddol Dolbadarn . Ar ddiwrnod clir, mae golygfeydd godidog ar draws Llyn Peris tuag at Fwlch Llanberis yn ymestyn o'ch blaen. Mae Gorsaf Llanberis yn fan cyfleus ar gyfer ymweld â siopau, gwestai a bwytai Llanberis, yn ogystal â Thrên Bach yr Wyddfa a Chanolfan Ymwelwyr y Mynydd Trydan . O'r fan hon, mae'r trên yn eich cludo yn syth drwy Barc Gwledig Padarn ar hyd lannau Llyn Padarn i ben y daith ym Mhenllyn. Mae'n eithaf cyfyng yma, ac felly mae'n well aros ar y trên i fwynhau'r golygfeydd. Ar y ffordd yn ôl, mae'r trên yn aros am ennyd yng Nghei Llydan. Gallwch aros yma am bicnic wrth y llyn, neu ymweld â chanolfan Cwm Derwen gerllaw, a dal trên hwyrach yn ôl i Gilfach Ddu. Tua 60 munud yw hyd y daith gyfan, os byddwch yn dewis aros ar y trên.

Mae caffi gorsaf Gilfach Ddu yn agored pan fydd y trenau'n rhedeg rhwng y Pasg a mis Hydref. Agorwyd estyniad newydd i'r siop anrhegion yno yn ddiweddar, sy'n cynnig amrywiaeth o nwyddau i'r teulu i gyd.

Mae cerbyd wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Byddai'n syniad da i chi adael i ni wybod ymlaen llaw eich bod yn dod, gan fod lle yn y cerbyd yma yn gyfyngedig.

Mae'r rheilffordd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr sy'n dod i Gymru i deithio ar y Trenau Bach heb orfod gwario gormod o arian na threulio gormod o amser yn gwneud hynny.

Saif pentref Llanberis mewn man godidog wrth droed Yr Wyddfa, sef yr uchaf o fynyddoedd Cymru a Lloegr. Ond nid y golygfeydd arbennig yma oedd y rheswm y tu ôl i sefydlu'r pentref yno. Roedd y chwareli llechi ar fynydd Elidir gerllaw wedi ehangu'n gyflym oherwydd y galw mawr am ddeunyddiau adeiladu yn ystod chwyldro diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ehangodd gweithlu 'Chwareli Dinorwig' i dros 3000, ac yn sgil hynny y datblygodd Llanberis, yn gartref i'r chwarelwyr.

Gydag agor y rheilffordd o Lanberis i gopa'r Wyddfa yn 1897, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr yn dod ar eu gwyliau, ac mae pwysigrwydd twristiaeth i'r economi lleol wedi ehangu'n gyson ers hynny, i'r un graddau ag y mae gwaith y chwareli wedi edwino.

Roedd 1969 yn garreg filltir bwysig yn hanes y pentref. Yn y flwyddyn honno, daeth gwaith y chwaerli i ben yn llwyr, gan ryddhau llawer o dir ac eiddo at ddibenion eraill. Cadwyd llawer o'r tir hwn ar gyfer mwynhad ymwelwyr, ac ers hynny, datblygwyd y tir hwn i ffurfio Parc Gwledig Padarn.

Erbyn heddiw, mae stryd fawr Llanberis yn brysur iawn, gyda'i siopau bach diddorol a nifer o wahanol lefydd i fwyta ac aros. Mae sawl llwybr cerdded yn cychwyn oddi yma i'r mynyddoedd, ac fe gewch fanylion llawn gan y Ganolfan Ymwelwyr ar y Stryd Fawr.

The Train Journey

Oherwydd cyfyngiadau o ran lle ym Mhenllyn, ynghyd â’r peryglon sy’n codi o dagfeydd yn y ffyrdd cul iawn, mae’n anodd i ymwelwyr ymuno â’r trenau ar y pwynt hwn. Byddwn felly yn dechrau ein taith yng Ngorsaf Parc Padarn – a elwir yn lleol yn Gilfach Ddu – er ei fod wrth gwrs bellach yn bosibl dechrau o Orsaf Llanberis.

Gwerthir tocynnau ar gyfer y daith ar y trên yn Adeilad yr Orsaf, ac felly hefyd ystod o anrhegion, llyfrau, cofroddion a lluniaeth.

Wrth fynd ar y trên, sylwir bod gan y coetsis ddrysau ar un ochr yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr holl orsafoedd ar un ochr yn unig, ac mae’n rhagofal diogelwch ychwanegol er mwyn atal unrhyw un rhag syrthio i mewn i’r llyn ar yr ochr arall!

darllen mwy

Dathlu 50 mlynedd 2022

 

Tocynnau

Ar gyfer pob archeb tocyn ar-lein casglwch eich tocyn o'n prif orsaf yn:
Gilfach Ddu,
Parc Gwledig Padarn,
Llanberis
LL55 4TY

Rydym yn croesawu Cŵn ar ein trenau

map

Hawlfraint © 2024 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd

Telerau ac Amodau Archebu / Prynu Tocynnau

Facebook TwitterInstagram