Llanberis Lake Railway

Digwyddiadau

Archebu Ar-lein
TrainArchebwch eich tocynnau ar-lein ar gyfer y trên o'ch dewis hyd at hanner nos y diwrnod cyn teithio. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod gennych sedd wedi'i chadw ar gyfer eich amser trên dymunol.
ARCHEBU
Helfa Wyau Pasg 30 Mawrth - 1 Ebrill 2024

Pasg Dewch i ymuno â ni ar gyfer ein Helfa Wyau Pasg flynyddol. Unwaith eto, mae ein Cwningen Wen breswyl wedi cuddio ei holl wyau o amgylch y rheilffordd gan feddwl na fydd unrhyw un arall yn dod o hyd iddyn nhw! Allwch chi helpu? Bydd pawb yn derbyn gwobr am hela!

Archebu

Wythnos Archarwyr 5 - 9 Awst 2024

Train Hwyl gwyliau'r hâf i’r teulu ar Rheilffordd Llyn Padarn!

Beth am ddod i’n helpu ni i ddathlu ein wythnos ‘Archarwyr y Byd’ blynyddol rhwng 5ed a 9fed o Awst ar y rheilffordd? Gwisgwch i fyny fel eich hoff archarwr i gael y cyfle i ennill tocynnau teulu i un o dri parc thema yn ogystal â gwobrau dyddiol eraill!

*Bydd pob plentyn sy’n gwisgo fel eu hoff archarwr yn teithio’n rhad ac am ddim ar y trên a bydd archarwyr i chi eu darganfod ar eich taith ar hyd Llyn Padarn.

Felly, beth am ddod draw i Reilffordd Llyn Padarn rhwng y 5ed a’r 9fed o Awst.

*Plis nodwch uchafswm o 3 plentyn I deithio am ddim I bob oedolyn sy'n talu'n llawn.

Archebu

Helfa Calan Gaeaf 28 Hydref - 2 Tachwedd 2024

Train Rydym wedi clywed fod yr ysbrydion direidus yn gwneud eu ffordd yn ôl i ‘Goedwig y Gwrachod’ eto eleni ar ôl cael eu hel i ffwrdd flwyddyn diwethaf.
A wnewch chi ddod ar ein Trên Ysbrydion Llyn Padarn drwy Goedwig y Gwrachod i helpu i hela am yr ysbrydion direidus sy’n cuddio ar hyd y rheilffordd?! Bydd pob heliwr ysbryd yn derbyn gwobr am ein helpu.
Archebu

Lakeside Winter Wonder’ 12 Tachwedd – 19 Rhagfyr

TrainYmunwch â ni ar ddydd Mawrth, dydd Mercher, neu ddydd Iau o’r 12fed o Dachwedd ar daith olygfaol hydrefol ar hyd glannau Llyn Padarn lle gallwch fwynhau ysblander mynyddoedd Eryri wrth drafeilio ar un o’n trênau stêm treftadaeth. Bydd diod tymhorol a mins pei i’r oedolion tra bydd plant yn cael diod ysgafn a danteithion siocled.
Archebu

Hawlfraint © 2024 Llanberis Lake Railway. Cedwir Pob Hawl. Polisi Preifatrwydd. Gwefan gan Delwedd

Telerau ac Amodau Archebu / Prynu Tocynnau

Facebook TwitterInstagram